24.2.09

Will the real Peruvian stalker please stand up?

Ma'n dod i rywbeth pan chi'n cal eich stalko gan rhyw Peruvian, ond smo chi'n gwybod pa Peruvian stalker yw e!

Wi dim ond di bod yn fyw am 25 mlynedd, a dwi rhywsut wedi 'casglu' 3 stalker o Beriw! Sa i'n siwr shwt!

Ma'r un diweddara 'ma yn stalko fi ar Facebook. Sdim syniad 'da fi pwy yw e. Ac wrth edrych nôl i'r 2.5 wythnos treuliais i ym Mheriw adeg hyn llynedd, wi'n itha siwr na ddes i ar draws y boi 'ma!

I ddechre o'n i'n meddwl mai boi gwrddes i yn Lima o'dd e. Ma'r boi 'ma yn e-bostio fi nawr ac yn y man, ond wi byth yn ateb. O'n i'n meddwl bydde fe'n cymryd yr hint. A ma' fe 'di dal fi mas cwpwl o weithiau trwy ddefnyddio enwau gwahanol. 'Na pam o'n i'n meddwl mai hwn o'dd e.

Felly pwy yw e? A be ma' fe moyn?! Wrth gwrs, licen i ffindo hyn mas heb ofyn iddo fe!

Mae'r dirgelwch yn parhau...

2il Ddiwrnod Gore'r Flwyddyn

Y tro dwetha i fi flogio o'dd Rhagfyr y 5ed. Wow.

Felly dyma dorri fy nhawelwch gan mai heddi yw ail ddiwrnod gore'r flwyddyn.

Wedi cal llond berfa o grempog...felly wi nawr yn teimlo'n dost. Ond o'dd e werth e. (Ok, so do'dd dim berfa. Gutted.)

Ond wedyn digwyddodd rhywbeth syfrdanol - galwodd Dad fi'n "Gwenz"! Deirgwaith!

What a time to be alive.

5.12.08

Ti moyn tishen? Odw glei!

Ymddiheuriadau am beidio ysgrifennu am yonks! Y gwir yw nagw i 'di neud unrhyw beth o werth ers dod adre! Ond well i fi 'sgrifennu rhywbeth achos ges i stwr wythnos dwetha gan ferch geith aros yn ddienw! Felly yn arbennig i ti, ferch ddienw, dyma flogiad newydd!

Yr unig beth diddorol wi 'di neud yn ddiweddar yw prynu 4 pysgodyn aur! Dyma'r hanes:

O'n i a G. (fy mrawd) wedi penderfynu y dylen ni gal pysgodyn aur. Y syniad gwreiddiol o'dd prynu un pysgodyn. Ond wedyn penderfynon ni y licen ni gal pysgodyn yr un. Ond wedyn meddylion ni y bydde ein chwaer ni L. yn grac se hi'n dod nôl o Fecsico a gweld nad oedd pysgodyn ar ei chyfer hi (dath hi adre heddi, gyda llaw)...ond wedyn bydde E., y chwaer arall, yn grac a siwr o fod yn meddwl bo ni'n gadael hi mas yn fwriadol, se hi'n dod adre a fod 'da ni'n 3 bysgodyn yr un, a dim un 'da hi! (Ydyn, ni i gyd yn hynod o aeddfed!)

O'dd bore bant o'r gwaith 'da fi wythnos dwetha, felly es i a Gwion ar daith i Arthur Newman's (canolfan arddio i chi sy ddim yn gyfarwydd â Capel Dewi). Do'dd Gwion ddim wedi ei fodloni 'da'r dewis o bysgod a thanciau o'dd ar gael, felly bant â ni i Pets at Home yn 'Brystwyth i weld beth o'dd 'da nhw i gynnig.

Wel, rhaid i fi weud o'dd y detholiad o bysgod yn itha shimpil â dweud y lleia! Snoozefest! Y peth gore am yr ymewliad o'dd gweld colomen yn cerdded rownd y siop yn hamddenol! Prynu bwyd siwr o fod...

Felly sgrialu nôl i Newman's wedyn cyn bo'n rhaid i fi fynd i lafurio! O'dd y tanc o'n ni moyn bach yn ddrud (wel, ddim mor ddrud â 'na, ond wi 'di clywed sôn bo ni yng nghanol rhyw drafferthion economaidd neu rhwbeth!), felly penderfynon ni brynu 4 pysgodyn, achos wedyn bydde E. a L. yn gallu cyfrannu at bris y tanc! Genius! (L. druan - o'dd hi'n meddwl bo hi'n goffo cyfrannu i'r tanc heb gal pysgodyn!).

O'dd Gwion a fi moyn y pysgod ffansi 'ma, ond wedodd y boi dylen ni gal y rhai mwy plaen, gan fod mwy o obaith 'da nhw i oroesi mewn tanc 'da 4 pysgodyn ynddo fe achos bo nhw'n gryfach! (Penderfynodd Gwion a fi, os na fydden nhw'n goroesi'r noson gyntaf, y bydden ni'n mynd nôl y diwrnod wedyn a chael 2 o'r pysgod ffansi, a gwerthu E. a L. lawr yr afon!)

Y broblem wedyn o'dd enwi'r pysgod. Penderfynais i alw fy un i yn Tishen (sa i'n siwr pam, wi jest yn lico'r gair!)...ond o'dd pawb arall yn ofnadwy o araf! Penderfynodd E. alw ei un hi yn Y Pla (dyn â wyr pam - wi ofn gofyn!). A ma' pysgod G. a L. wedi cal 2 enw. Batido o'dd enw un L. i ddechre (diod Fecsicanaidd...neu rhwbeth!), ond Guacamole yw ei enw e erbyn hyn, a dechreuodd un G. fel Guthy (Gussy gyda lisp - wedi ei enwi ar ôl Gussy Finknottle o Jeeves and Wooster), ond wedyn newidiodd e fe i Papa Bouba Diop ar ôl i ni fod yn gwylio Portsmouth vs AC Milan!

Felly dyna ni - chi nawr yn gwybod popeth! Dyma lun o'r pysgod yn eu tanc prydferth - joiwch!:

3.11.08

Samba!

Wi dal yn Rio de Janeiro, ond wi´n gadael nos fory.

Daeth fy mag i i´r hostel, o´r diwedd, y p´nawn wedyn...ac er lles yr hostel cyfan es i i gal cawod a newid fy nillad i´n syth! Dyw´r tywydd ddim wedi bod yn grêt, ond o´dd ddoe a heddi´n heulog iawn, felly es i i draeth Ipanema. Nes i ddim aros yn y môr am yn hir - ma´r tonnau´n uchel, a´r cerrynt sy´n llifo nôl mewn i´r môr wedyn yn ofnadwy o gryf. Wi dal ddim yn lico´r syniad o foddi!

Wi dim ond rili ´di neud dau beth hynod gyffrous ´ma (o´n i yn Rio ym mis Mai, felly wi ´di neud lot o bethe ´ma´n barod):

1. Samba school.

Aethom ni i favela (slym) Mangueira, ac i´w neuadd gymunedol nhw (gyda metal detectors, ac arwydd yn dweud bo chi ddim yn cael mynd â gynnau mewn. Neis.). O´dd band samba yn chwarae ar y balconi, a merch hynod blastig mewn ffrog aur yn dawnsio o´u blaen nhw, balconi bach arall i´r cantorion, a tua 2,000 o´r trigolion lleol yn dawnsio. Am 6 mis cyn y carnifal, ma´nhw´n cynnal y nosweithiau ´ma i ymarfer. Ma´´da nhw gân arbennig ar gyfer y carnifal, a ma´pawb moyn dysgu hi...felly nathon nhw mwy neu lai chwarae´r un gân trwy´r nos! (O´dd y gân mwy neu lai yn dweud faint ma´nhw´n caru Mangueira, ac mai eu samba nhw yw´r samba gore.) O´dd tua 50 yn chwarae yn y band...ond yn y carnifal bydd 400 ym mand Mangueira!

Nes i rili fwynhau, a licen i se fi´n gallu dawnsio fel nhw...ond wi´n drychinebus yn anffodus.

2. Futebol.

Neithiwr es i i gêm bêl-droed - woo hoo! Do´dd dim gêm mlaen tro diwethaf o´n i ´ma, felly o´n i´n benderfynol o fynd tro ´ma. Aethom ni i weld Fluminense vs Vasco da Gama, dau dîm o Rio. O´n ni´n eistedd (wel, sefyll) yn stand Fluminense, felly dyna pwy o´n ni´n cefnogi. Nhw chwaraeodd orau, ond enillodd Vasco 0-1.

´Na´r awyrgylch gorau wi erioed ´di gweld mewn gêm bêl-droed. Ond o´dd un boi ar fy mhwys i yn gweddîo bob tro o´n nhw´n cal cic rydd! (Esboniad - ma´r 2 dîm mewn peryg o gwmpo i´r ail adran.)

Yr unig beth nath rili annoyo fi o´dd y Saeson aeth i´r gêm ´da fi. ´Na´i gyd o´n nhw´n mynd mlaen a mlaen ambyti o´dd Lewis Hamilton. O´n i bron â mynd yn nyts! Ta beth, Massa gollodd e, nid fod Hamilton ´di ennill.

Wi´n gadael Rio nos fory, ac yn mynd i aros yn Llundain am bach. Wi´n mynd i rewi!

31.10.08

Cardod!

Wel dwi yn Rio de Janeiro erbyn hyn (am yr ail waith eleni), a gellir disgrifio fy nghyflwr presennol i gyda 3 gair:

cranky; jet-lagged; di-fag!

Cyrhaeddais i Rio am 8yh, aros yn eiddgar am fy mag wrth y carosel...a dath dim byd! Bois panics! Weles i foi bach o´r cwmni awyrennau, a wedodd Mr Aerolineas Argentinas fod y bag yn Buenos Aires, ac y dyle fe gyrraedd gyda´r flight nesa am 11yh, ac y bydden nhw´n anfon e mlaen i´r hostel y noson yna (nithwr).

O´n i ´di penderfynu aros lan yn y nos i groesawi fy mag afradlon...ond gath y jet lag y gore ohona i. Dihunais i yn gynnar bore ´ma - dal dim bag. Ges i Mr Hostel i ffonio Mr Aerolineas Argentinas, ond dyw Mr A.A. ddim yn ateb y ffôn! Blewgi!

Trwy´r dydd do´n i methu penderfynu os o´n i´n lico Aerolineas Argentinas neu beidio. Canslon nhw un o´n flights i llynedd, felly o´dd rhagfarn ´na´n barod! Ond o´n i ´di penderfynu rhoi cyfle arall iddyn nhw.

Negyddol: seddi anghyfforddus, bwyd itha ych (gan gynnwys ´a selection of cold meats´ o´dd yn blasu fel rwber), dim sgrîn personol i weld ffilmiau.

Positif: dangoson nhw ´Kung Fu Panda´.

Ond ma´busnes ´da´r bag wedi gwthio popeth off y clogwyn, a sa i moyn hedfan ´da nhw byth ´to! Bydda i´n hedfan adre ´da BA, felly galle popeth fynd yn anghywir ´to yn Terminal 5!

26.10.08

Cwstard!

Wi yn Seland Newydd erbyn hyn, ond cyn sôn am hynna, ma' 'na un nodyn bach ola 'da fi am Tonga.

Wythnos diwethaf o'dd ci 'da ni! Nath ffrind i ffrind ddwyn e o ochr yr hewl, a'i roi e i fi a Hannah! Nes i ei enwi e'n Custard! Dim ond peth bach o'dd e druan, ond dechreuon ni ei hyfforddi e'n syth! Yn anffodus nath yr holl hyfforddiant ddim rhwystro Custard bach rhag gadael anrhegion amheus i ni yn y gegin a'r ystafell fyw dros nos! Wi'n siwr o'dd tref Neiafu i gyd yn gallu clywed y waedd "Bad Custard! Kuri kovi! (Ci drwg)" yn glir bob bore!

Ma' llond y lle o hen gwn rhacslyd, drewllyd dros yr ynys i gyd (a'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ymgasglu tu fas i'n fflat ni i udo trwy'r nos, neu i ymladd 'da'r moch!), a wi'n itha sicr mai Custard o'dd y ci glanaf (rhoddon ni ddau fath iddo fe mewn diwrnod 'da dwr cynnes a siampw VO5!), gyda lleiaf o chwain, a'r bywyd gorau yn yr holl Deyrnas! O'dd e'n cael llaeth, corned beef, bisgedi, a Bongos (creision) mewn llaeth i fwyta. (Nath un o'n ffrindiau ni drio cal e i fwyta bach o gwstard...ond o'n i'n teimlo fod hwnna'n rhy agos i ganibaliaeth!)

A dweud y gwir, o'dd e'n cael ei sbwylio! Dydd Iau aethom ni ag e i'r traeth, ond o'n ni'n gorfod stopio'r car yn aml er mwyn osgoi'r anrhegion amheus! Gath e wers nofio - wel, gollyngon ni e yn y dwr, ac fel mae'n digwydd, o'dd e'n gallu nofio'n barod! Ond pan aethom ni i nofio, o'dd rhaid i ni roi e mewn bwced tal, rhag ofn iddo fe redeg bant!

Custard bach druan! A pan adawais i ddoe (dydd Sadwrn), dechreuais i lefain y glaw wrth ffarwelio â'r ci! O'dd e dim ond 'da ni am wythnos! Fflips!

23.10.08

Ta-ta Tonga, Tonga Ta-ta

Wel, ar ôl bron i ddeg wythnos (o'dd fod i fod yn ddim ond 3 wythnos!), wi'n mynd i fod yn gadael Tonga fory, a mynd i Seland Newydd. Bydda i yn Auckland am tua 5 diwrnod, a dwi'n bwriadu neud dau beth:

1. Mynd i'r sinema

2. Golchi dillad - ar ôl 10 wythnos o olchi 'da llaw, ma'n nillad i'n rhacs!

Sa i moyn gadael Tonga, ond os na af fi nawr, falle fydda i ddim adre mewn pryd ar gyfer y Nadolig, a sa i moyn methu Nadolig arall adref!

Ma' pethe'n dechre tawelu ar ynys Vava'u ta beth. Ma'r tymor gwylio morfilod wedi dod i ben, ac ma'r bobl gyfoethog ar eu yachts posh yn dechre gadael cyn tymor y cyclones.

Wi ar ganol trio achub fy lluniau i - wedi trio copio nhw i CD mewn caffi'r we...a ma' nhw 'di diflannu o'r memory card...ac yn gwrthod mynd ar y CD o'r desktop! Os na lwyddwn ni i sortio popeth, bydda i'n treulio gweddill y diwrnod yn llefain!

21.10.08

Llwy Mawr a Bowlen o Fwd

Neithiwr ges i wahoddiad i fynd i weini Tongan kava! Os nad y'ch chi'n gwybod beth yw e, ma' kava yn hylif sy'n drych fel dwr mwdlyd, ac yn cael ei wneud mas o wreiddiau...gwreiddiau'r planhigyn kava, wi'n cymryd! Ma' fe'n blasu'n erchyll, y fy marn i, ac yn eich neud chi'n gysglyd...neu'n spaced out os chi'n yfed gormod yn rhy aml. Yn draddodiadol, dim ond y dynion sy'n yfed, a chi fod i gal merch i weini.

Felly dyna ble o'n i, ferch wen fel yr eira, llwy codi cawl yn fy llaw, 'dwr brwnt' mewn bowlen o fy mlaen i, a 6 dyn Tongaidd yn aros yn eiddgar am eu diod! O'dd rhaid i fi godi'r kava i ddau gwpan (mas o gneuen goco), a phasio un i'r chwith, ac un i'r dde. Joies i, a wi 'di cal gwahoddiad i fynd nôl 'na i weini 'to! Buom ni'n siarad ambyti tîm rygbi Cymru...a pholisi llywodraeth Gomiwnyddol Tseina o gael un plentyn ym mhob teulu! Dyn a wyr sut dechreuon ni drafod hwnna!

Yn ôl y sôn, bu daeargryn yn Tonga cwpwl o ddiwrnodau nôl - nes i hyd yn oed dderbyn neges oddi wrth ffrind yn gofyn os o'n i'n iawn! Nes i ddim teimlo unrhyw beth, felly do'n i ddim hyd yn oed yn gwybod fod daeargryn wedi bod!